Dai Williams (Tawerin)

by Dawnsio

By Mavis Williams Roberts Dai Williams oedd un o sefydlwyr Dawnswyr Tawerin ac angor y tîm. Os roedd Dai yno roedd pawb yn gyffyrddus. Nid dawnsiwr yn unig, roedd Dai yn ysgogwr, trefnydd a chynghorwr i’r tîm. Yn lleddfu’r plu chwithig ac yn annog yr ofnus. Fe ac Ann oedd y llinyn a gadwai’r tîm

Darllenwch Mwy…

Hwyl y Gwyliau Haf

by Dawnsio

Gyda’r tywydd yn cynhesu a’r dyddiau’n ymestyn daeth hi’n adeg gwyliau gwerin yr haf. Dros y misedd nesaf bydd alawon, rhythmau a dawnsiau Cymreig traddodiadol i’w clywed a’u gweld ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Os ewch i’n tudalen ‘Digwyddiadau’ fe welwch restr o rai o’r digwyddiadau sydd ar y gweill. Wrth gwrs,

Darllenwch Mwy…

Diwrnod o Ddawns Llangadfan 2017

Cynhelir Diwrnod o Ddawns Llangadfan eleni ar ddydd Sadwrn 17eg Mehefin yn y Cann Offis, Llangadfan. Trefniadau fel arfer: gwelwch y daflen ynghlwm.  Bydd prydiau bar i gael i’w harchebu ar y diwrnod. Dewch yn llu! Cliciwch y ddelwedd i’w chwyddo.

Parti Penfro Pat Shaw

Yn ystod 2017 mae Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru yn dathlu Canmlwyddiant geni Patrick Noel Shuldham-Shaw 1917-1977 Fel rhan o’r “Dathlu ym Mhob Cwr o Gymru” fe’ch gwahoddir i ymuno â ni yn nathliadau Sir Benfro i anrhydeddu Padrig Farfog ( i roi iddo ei enw barddol) am ei gyfraniad i Ddawnsio Gwerin yng Nghymru.

Darllenwch Mwy…

Robert Pyves

by Luke James Evans

Yn ddiweddar by farw Robert Pyves, un o hoelion wyth Dawyswyr Penyfai. Roedd Rob bob amser yn barod a’i gymwynas ac yn hynod ffyddlon i’r tim. Bydd colled enfawr ar ei ol. Cydymdeimlwn gyda chariad ag Ariadna ei weddw a gweddill ei deulu

Judith Harding

by Dawnsio

Trist gennym gyhoeddi marwolaeth sydyn ac annisgwyl Judith Harding, Dawnswyr Caernarfon, yn 58 mlwydd oed. Gedy gwr a thair merch. Ein cydymdeimlad dwys i’r teulu, ei ffrindiau a’i chyd-ddawnswyr.