Bu hanes dawnsiau gwerin Cymru yn un eithaf trist. Gyda dyfodiad y sectau Anghydffurfiol yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe edrychodd y capeli ar y celfyddydau a diwylliant gwerinol Cymreig fel pethau pechadurus iawn. Fe wnaeth y capeli, y capelwyr, y diaconiaid a pregethwyr mawr y dydd fel Thomas Charles o’r Bala, eu gorau glas i gael gwared o bob math o ddifyrrwch gwerinol “pechadurus” fel dawnsio, canu gwerin, gwyliau Mabsant a cherddoriaeth werin yn gyffredinol, ac eithrio, wrth gwrs, canu emynau a cherddoriaeth y capel. Gorfodwyd pobl i gydymffurfio (!) yn y gymdeithas Gymreig a Chymraeg ond roedd rhai yn ymladd yn erbyn y drefn ac yn dal i ddawnsio (ond ar ôl tynnu llenni’r tŷ!).

Roedd rhai eraill fel William Jones (Llangadfan) ac Edward Jones (Bardd y Brenin), yn gweld y difrod mawr oedd yn digwydd i’r diwylliant ac fe wnaethant hwy a chasglwyr eraill fel Bennett, Walsh a Thompson, lwyddo i nodi’r dawnsiau ar bapur. O’r ail ganrif ar bymtheg ymlaen casglodd a chyhoeddodd Playford nifer o ddawnsiau Cymreig fel Meillionen ac Abergenni. Fel llawer o gerddoriaeth yr adeg yma, bu llawer iawn o newid a benthyg rhwng Lloegr, Cymru, Yr Alban, yr Iwerddon ac Ewrop, ac fe aeth nifer o’n dawnsiau Cymreig i mewn i gasgliadau Prydain Fawr. Cadwyd y teitlau gwreiddiol Cymraeg wrth gyfieithu i’r Saesneg, felly fe aeth y ddawns “Hoffedd ap Hywel” yn “Powell’s Fancy” er enghraifft. Dros amser, diflannodd yr hen ddiwylliant gwerinol cyfoethog, byrlymus, a dim ond ambell glocsiwr neu ddawnswraig yn dal i stepio a phasio’r traddodiad ymlaen, a’r telynwyr teires yn dal i ganu yn y plastai mawr yn cadw’r alawon traddodiadol, llawer iawn ohonynt yn alawon dawnsiau. Felly, ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, bach iawn oedd cyfraniad dawnsio gwerin i’r diwylliant Cymreig. Yn yr ugeiniau, fe wnaeth Hugh Mellor, Urdd Gobaith Cymru ac eraill ddechrau ymddiddori yn yr hen ddawnsiau. Yn y pedwardegau, daeth Lois Blake a Gwyn Williams yn flaenllaw yn atgyfodi dawnsio gwerin Cymreig ac yn 1949 ffurfwyd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru gyda’r nod o hybu ac ail-greu yr hen ddawnsiau. Casglwyd llawer iawn o ddawnsiau oedd gydag enwau Cymraeg neu o naws Gymreig o’r casgliadau, gydag ambell fewnfudiad oedd, efallai,heb ddim byd i’w wneud a Chymru! Trwy ailwampio ac ail-greu y dawnsiau a gyda llawer o ymchwil a hir ymarfer fe ddatblygodd dawnsio gwerin Cymru rhan fywiog, gweladwy, lliwgar a byw o ddiwylliant Cymru.

Heddiw, mae dros ugain o grwpiau dawnsio i oedolion a channoedd ar gannoedd o dimau yn yr ysgolion ac yn Adrannau ac Aelwydydd yr Urdd drwy Gymru. Mae Eisteddfod yr Urdd yn hybu’r dawnsio ac yn denu miloedd o bobl ifanc i gystadlu pob blwyddyn. Mae Gwyl Plant Gwent a Gwyl Plant Cymru yn llwyddiant mawr gyda dros fil o blant yn cymryd rhan, y rhan fwyaf o Dde Cymru. Mae Gwyl Ifan Caerdydd hefyd yn un o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn gyda dros ddau gant o ddawnswyr hyn o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan, a phawb mewn gwisg draddodiadol.