Hwp Ha Wen, Cadi Ha, Morys Stowt, Am yr uchla neidio, Hwp dene fo,
Mi ladal , a’i ladal o, a ladal ges i fenthyg,
Cynffon buwch a chynffon llo a chynffon Rhisiart Parri go, Hwp dene fo.

Llinell neu ddwy o gân draddodiadol o Sir y Fflint a genir gan y dawnswyr wrth i’r gwÿr orymdeithio drwy strydoedd tref marchnad Treffynnon ar y Sadrwn cyntaf o Fis Mai.

Ers chwe mlynedd mae Gwyl Cadi Ha wedi bywiogi canol tref Treffynnon wrth i gannoedd o blant ysgol orymdeithio ar hyd y Stryd Fawr ddeniadol, ddi-draffig cyn ymgynnull yng Ngerddi’r Twr am ddwyawr o ddawnsio. Mae’r achlysur yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i siopwyr, marchnatwyr, plant a’u rhieni, yr ysgolion a’r cyhoedd. Ond pam mae hyn yn digwydd o gwbl?

Mae dros ddwy ganrif o gofnodion o ddynion o gymunedau glofäol gorllewin Sir y Fflint [yn arbennig felly o’r Fflint, Bagillt, Treffynnon, Mostyn a Llanasa] yn gorymdeithio a dawnsio ar ddydd cyntaf Mai. Weithiau buasai’r gweithgareddau yn parhau am hyd at bythefnos wrth i’r dynion [gyda chymorth y rheilffordd] fynd a’u dawns i gymunedau eraill, gan deithio belled a Bangor i gasglu ychydig o geiniogau.

Roedd y ddawns yn cynnwys parau o ddynion mewn dwy linell, gyda’u wynebau wedi eu duo gan lwch y glo, neu gorcyn wedi ei losgi. Gorymdeithient mewn dillad gwynion, gyda’r naill linell yn cario rubannau cochion a’r llall â rubannau gleision, gan aros yma ac acw i ganu.

Gyda’r dawnswyr yr oedd dau gymeriad; Bili, mewn gwisg ddu a Cadi mewn dillad merch. Buasai’r ddau gymeriad yn rhyngweithio a chaglu arian mewn lletwad gan ymateb i eiriau’r caneuon.,

Roedd eu dawns yn gystadleuol o ran natur gan gyfeirio at “neidio am yr ucha”, “neidio dros dy ben di” neu “neidio dros y gamfa”[sticill]. Roedd llinellau eraill yn cyfeirio at y “ladal” neu’r lletwad ac at gasglu arian.

Roedd yr union eiriau yn amrywio o ardal i ardal ac yn esblygu dros y blynyddoedd. Er bod y traddodiad hwn ynghlwm â’r iaith Gymraeg ac yn gysylltiedig a chymunedau lle ceid, ychydig dros ganrif yn ôl, gyfran helaeth o siaradwyr Cymraeg uniaith – mae cofnod o ddefnyddio rai geiriau Saesneg.

Mae llinellau fel “On the first day of May we’ll have a holiday” ac “I wish i e, I wish i o, I wish I had a penny o” yn cyfleu ychydig o’r traddodiad i’r sawl nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg.

Yn y Ddeunawfed ganrif fe nododd Lady Herbert Lewis o Gaerwys y gân a’r ddawns ar ôl sgwrsio gyda meistr Tloty Treffynnon [ysbyty Lluesty erbyn heddiw] ac mae’r fersiwn honno, heb gynnwys tafodiaith Sir y Fflint, yn parhau i’w defnyddio.

Er i’r arfer golli ei fri ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, mae llawer o drigolion y cylch yn cofio gweld perfformio’r Cadi Ha, neu, hyd yn oed yn meddu ar atgof plant neu bobl ifanc o wisgo a pherfformio rhyw ddawns neu gilydd un unol â’r traddodiad.

Diolch i Ieuan ap Siôn, canwr lleol, bu adfywiad yn yr 1970 a’r 80au. Gan seilio y ddawns ar atgofion ei dad a’i daid fe gasglodd criw ynghyd i deithio bob dechrau fis Mai. Arferent ddawnsio “rhywsut, rhywsut” yn hytrach na chadw at sgript ac fe gafwyd sawl ymddangosiad ar y teledu. Bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, fel canlyniad i sgwrs rhyngof i a rheolwr Canolfan Treffynnon, fel lanswyd yr Wyl Cadi Ha presennol.

Fe ddechreuwyd gyda pum ysgol leol, cwpwl o ddawnswyr stepio ac aelodau o griw dawnsio gwerin o’r Wyddgrug, sef Dawnswyr Delyn. Bu’n llwyddiant mawr, ac o adeiladu ar y profiadau, fe dyfodd yn wyl boblogaidd. Derbyniwyd cefnogaeth o Ynys Môn, Caernarfon, Llangadfan (Powys), Caerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth a Phenybont ar Ogwr.

Y llynedd fe dyfodd yn wyl benwythnos gan wahodd tîm o ddawnswyr traddodiadol o Fflandrys yng ngorllewin Gwlad Belg. Bu’r ymweliad yn gymaint o lwyddiant fel bo’n pwyllgor o ddeg erbyn hyn yn gobeithio estyn gwahoddiad blynyddol i dîm o dramor.

Eleni, ein gwestai fydd Bock Nee Fannee o Ynys Manaw gyda’r wyl yn cychwyn gyda Noson Lawen yng Ngwesty’r Springfield ger Treffynnon. Bydd plant o o leia’ pymtheg ysgol yn gorymdeithio fore Sadwrn yn Nhreffynnon gyda’r oedolion yn ystod y p’nawn yn ymweld am y tro cyntaf â Bagillt a Fflint. Cynhelir dawns fawr yn Neuadd Eglwys y Santes Fair yn yr Wyddgrug y nos Sadwrn a gweithgareddau eraill anffurfiol ledled y sir ar y Sul.

Fel y bu i’r wyl dyfu, fe dyfodd y gwaith trefnu hefyd. Mae’n pwyllgor, yn ogystal a’r gyllideb, wedi cynyddu ac erbyn hyn yn wynebu’r dasg flynyddol o geisio am grantiau … ac o orfod oedi tan y munud ola’ i weld beth fydd canlyniad hynny cyn symud ymlaen i drefnu’r wyl.

Rydym yn ddiolchgar i’n tîm triw – yn gerddorion, stiwardiaid, cefnogwyr, athrawon a rhieni – heboch chi ni fuasai’r wyl yn cystal llwyddiant.

Rydym yn bwriadu gwneud cofnod fideo o’r wyl ynghyd âg atgofion to hýn o’r Cadi Ha gan gyhoeddi llyfr y flwyddyn nesaf [dan awduriaeth y Dr. Prydwen Elfed Owens, Cadeirydd Cymdeithas Dawns Werin Cymru, sy’ eisoes wedi cwblhau llawer o’r ymchwil]. Carwn estyn gwahoddiad i ddarllenwyr ymuno a ni yng nghanol Treffynnon ar y cyntaf o Fai, 2004 am wir wyl o liw, o ddaawns ac o gerddoriaeth.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â swyddfa Cadi Ha ar 01352 755614 neu sgwennwch at Gwyl Cadi Ha, d/o Menter Iaith Sir y Fflint, Ty Terrig, Stryd Caer, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Hoffem estyn gwahoddiad cynnes i bawb – yn ddawnswyr, yn gerddorion ac yn wylwyr o bob man – i ymuno â ni yn Stryd Fawr Treffynnon, Bagillt neu Castell y Fflint ar Fai y cyntaf. Fe fydd yr un croeso i’r nosweithiau o ddawns a cheddoriaeth ar y Nos Wener (yn y Springfield Hotel, Pentre Helygain ger Treffynnon) a’r Nos Sadwrn yn Neuadd yr Eglwys yn Yr Wyddgrug.

Mae Christopher Bailey yn sylfaenydd a Chadeirydd Gwyl Cadi Ha ac yn Gynghorydd ar Gyngor Tref Treffynnon