Rai blynyddoedd yn ôl bellach fe baratodd ein Cynlywydd Mrs. Alice E Williams lyfr gwerthfawr ar gefndir ein dawsfeydd.Yn anffodus nid yw’r llyfr eto wedi ei gyhoeddi, trychineb y dylai gael ei unioni ar fyrder. Dyma ddetholiad o ‘Llwybrau’r Ddawns’ yn disgrifio Arglwyddes Llanofer a dwy ddawns a briodolir iddi hi- wedi’i gyhoeddi yma trwy ganiatad caredig yr awdur.

Llwybrau’r Ddawns gan Alice E Williams

LLYS LLANOFER

Safai Llys Llanafer ar y ffordd rhwng Y Fenni a Chasnewydd. Manordy ar steil Tuduraidd, wedi ei gynllunio a’i adeiladu mewn carreg gan Thomas Hopper i Benjamin Hall ym 1836. Mab i ddiwydiannwr ecfoethog oedd Benjamin Hall, Abercarn a phriododd Augusta Waddington, ail ferch Benjamin Waddington Plasdy’r Parc, Llanofer ym 1823. Ar ei farwolaeth gadawodd Benjamin Waddington y cyfan o’i ystad i’w ail ferch.

Wedi eu priodas ymsefydlodd Benjamin ac Augusta Hall mewn ysblandera rhwysg yn eu cartref – Llys Llanofer – Manordy ffug Duduraidd.

Ym 1855 dyrchafwyd Benjamin Hall yn bendefig i’w adnabod fel Barwn Llanofer. Yna ym 1855-58 apwyntiwyd a gweithredodd y Barwn fel Dirprwywr Gwaith cyntaf ei Mawrhydi y Frenhines Fictoria. Yn ystod y cyfnod hwn, adeiladwyd y cloc enfawr yn Nhwr Westminster, Llundain – Cloc Ben Fawr fel y’i gelwir hyd heddiw. Pan fu farw’r Barwn yinegniodd ac ymgollodd ei weddw i wneud yr hyn fu’n freuddwyd ac uchelgais iddi erioed. ‘Roedd yn bendant,yn ei bwriad i ddiogelu a gwarchod yr hyn allai o’r traddodiad Cymreig. Gweddnewidiwyd ei hystad i fod yn fath o bentref delfrydol Gymreig. Cyflogwyd gweithwyr yn siarad Cymraeg rhugl i weithio ar ei ffermydd, ei thir ac yn ei chartref.

Roedd yn ofynnol i’w holl weithwyr wisgo’r Wisg Gynireig. Adeiladwyd Melin Wlan Gwenffrwd ar ei hystad. Adeiladwyd Capel Calfinaidd Cymraeg ar ei hystad. Cauodd y saith tafarn, sefydiwyd gan ei diweddar wr, ar yr ystad.

Adeiladwyd ysgol ar yr ystad ac apwyntiwyd Cymro Cymraeg o Fethesda, Arfon (T.A.) Williams yn Brifathro ar yr ysgol honno.

Sefydiodd Ysgol Delynau a thelynorion yn Llanofer i astudio a thelori. Ni chaniateid defnyddio unrhyw delyn oddigerth Y Delyn Deires Gymreig yn y Llys. Apwyntiwyd Telynor Teulu – Thomas Gruffydd 1815-1887. ‘Roedd Telynor Arbennig yno hefyd ar gyfer y dawnsio Cymreig gan fod hynny (dawnsio) yn derbyn sail bendith ac, anogaeth lawn yr Arglwyddes. Bu farw’r Barwn un deng mlynedd ar hugain o flaen ei wraig hynod.

Gorwedd y ddau, ochr yn ochr ym mynwent Eglwys Llanofer, mewn cof-adail godidog wedi ei Arch gan destunau a symbolau Cymreig, o dan yr arfbais fabwysiadwyd gan Benjamin Hall ar ei ddyrchafiad yn bendefig.

PORTH MAWR
– y brif fynedfa – Porth Tuduraidd gydag arysgrifen ar ei ochr allan:-

Who art thou stranger?
If a friend, a hearty welcome be thine.
If a stanger, hospitality awaits thee.
If a foe, thou shalt be imprisoned by gentleness.

Wrth ymadael a’r Plas, ar ochr arall y porth, mae’r geiriau:-

Gentle departing friend, leave thy blessing
With those that thou leavest, and blessed be thou.
Health and ease be with thee on thy journey
And a joyful return be thine.

Porth Pen y Parc, Porth y Pentre, Porth Gwenynen
Gwelir hwy ar begynau ewmpawd eraill yr ystad.

FFYNNON GOFER

‘Roedd naw ffynnon neu ffynnhonnell ddwr ar dir y Plas ac yn ol y traddodiad dywedid fod eu dyfroedd yn meddu ar bwerau meddygyniaethol agwellhad. Y mwyaf o’r ffynhonnau oedd Ffynnon Gofer.

Enw’r Arglwyddes yng Ngorsedd oedd Gwenynen Gwent – enw eithriadol addas i wraig hynod.