Augusta Waddington – Arglwyddes Llanofer
Crynodeb o’i hanes gan Eiry Hunter

lady-llanoverGanwyd Augusta Waddington ar Fawrth 21ain 18O2 yn Y Ty Uchaf ar stad Llanofer yng Ngwent. Saesnes ronc. Ei theulu oedd perchnogion y stad, a hi oedd yr aeres. Priododd Benjamin Hall ym 1823 ac unwyd ystad Llanofer ag ystad gyfagos Abercarn. Roedd cysylltiad agos rhwng teulu Llanofer a’r teulu brenhinol, a roedd Benjamin Hall yn wr blaenllaw yn Llundain. Bu’n Llywydd y bwrdd iechyd ac yn Brif Gornisiynydd Gwaith. Tra roedd yn y swydd honno fe adeladiwyd cloc mawr Westminster a’i alw’n BIG BEN ar ei ôl.

Penderfynodd Augusta yn gynnar iawn yn ei bywyd i hyrwyddo’r Gymraeg a phethau Cymreig yn yr ardal ac ar Stad Llanofer. (Peth anarferol iawn i foneddiges o Saesnes i’w wneud yr adeg honno).

Pan yn blentyn mynnodd roi enwau Cymraeg ar ei hanifeiliaid anwes. Ym 1824 llwyddodd i berswadio’i rhieni i ysgrifennu Llanover gyda’r ‘ll’ ynhytrach na ‘Lanover’ ( er i’r ‘v’ aros).

Mae hanes amdani yn marchogaeth gyda un o’r gweision uwchben dyffryn Wysg.

“Ddeugain mlynedd eto, a fe fydd y Gymraeg wedi difiannu o’r wlad yma” meddai’r gwas. Ateb Augusta oedd.

“Os bydda i byw ddeugain mlynedd o nawr mi fydd yr iaith Gymraeg fyw hefyd”

Daeth dan ddylanwad Thomas Price (Carnhuanawc) a Lady Coffin Greenly o Swydd Henffordd ( un a wnaeth lawer i hyrwyddo iaith, llen a cherddoriaeth Cymru – ac un o noddwyr lolo Morgannwg).

Erbyn Eisteddfod Caerdydd 1834 roedd Augusta wedi dysgu Cymraeg yn ddigon da i gystadlu ar draethawd ar Yr laith Gymraeg. Cafodd y wobr, o dan y ffugenw ‘Gwenynen Gwent’. Cadwodd y teitl trwy’i hoes.

Ni fu pall ar frwdfrydedd Augusta ynglyn a phopeth Cymreig. Roedd yndestun sbort ymysg yn boneddigion, a fe’i gelwid yn benwan ganddynt. Ond mewn gwirionedd roedd yn wraig hael ei nawdd a chynnes ei chalon, ond yn wraig bendefynol iawn.

Mynnodd alw ei gweision wrth enwau Cymraeg ( hyd yn oed os nadoedd un ganddynt), a rhoi teitl Gymraeg i’w swyddi. Roedd yn rhaid iddynt wisgo’r wisg draddodiadol Gymreig mewn brethyn cartref (yn 1836 cyhoeddod ddraethawd ar ‘Y Wisg Gymreig’ yn cynnwys darluniau), a siarad yr iaith yn y llys. Roedd Llys Llanofer yn noddfa i delynorion a beirdd o bob ewr o Gymru.

Adferodd y Mari Lwyd a’r Plygain i’r ardal ac agorodd Ffatri Wlan Gwenffrwd. Rhoddodd wobr flynyddol i blant Ysgol Ddyddiol Llanofer i’r rhai a ddangosai mwyaf o wybodaeth o’r Gymraeg. Dillad traddodiadol fyddai’r wobr bob tro.

Roedd son am y dathliadau Nadolig, Y Calan a Nos Ystwyll yng Llys Llanofer – y canu, y cyngherddau a’r dawnsio – a’r bwyd!

Daethai aelodau o deuluoedd brenhinol i aros. Ym 1860 daeth tywysog ifane yr Iseldiroedd yno. Fe’i diddanwyd gan Gantorion Llanofer a Thomas Gruffydd telynor ar y deires, a’r gweision a’r morynion yn dawnsio hen ddawnsfeydd traddodiadol. Ysgrifennodd ei fam, Sophie, Brenhines yr Iseldrioedd i ddiolch am y croeso gafodd ei mab yn Lloegr!.

Y delyn oedd hoff offeryn Augusta. Cafodd siom fawr yn Eisteddfod Llandudno ym 1854 lle cafodd y piano le blaenllaw ar draul y delyn.

Roedd yn selog iawn dros ddirwest. Prynodd bob tafarn ar ei stad a’u troi’n dai bwyta. Newidiodd eu henwau i rai Cymraeg e.e. daeth y Nag’s Head yn Pen Ceffyl. Roedd yn hael ei nawdd i gapeli ac eglwysi’r cylch. Bu Benjamin Hall yn dadlau’n ffyrnig yn Nhy’r Cyffredin yn erbyn anhegwch yr Eglwys yn gorfodi pawb i addoli mewn iaith estron. Codwyd eglwys yn Abercarn ar gyfer teulu Llanofer a roedd rhaid i bob gwasanaeth fod yn y Gymraeg. Mynnodd yr esgob bregethu yn Saesneg yno unwaith. Felly, cyflwynodd yr Argwydd a’r Arglwyddes eu heglwys i’r Methodistiaid, a dyna yw hi hyd y dydd heddiw.

Roedd Augusta’n aelod brwdfrydig o Gymreigyddion y Fenni. Rhoddodd £600 i Silvan Evans ar gyfer ei eiriadur. Gyda’i chymorth hi y cyhoeddodd Ieuan Gwynedd y misolyn ‘Y Gymraes’. Bu’n nawdd ac yn help mawr i Charlotte Guest wrth iddi gyfieithu’r Mabinogion. Roedd yn awdures,cyhoeddodd lyfr rysetiau, a.y.b. Bu’n casglu alawon gwerin Cymru gyda Maria Jane Williams. Ond y mwyaf enwog yw ei chasgliad o wisgoedd merched Cymru gyda darluniau lliw o’i gwaith ei hun.

O dan arweiniad y Cymreigyddion cynheliwyd 10 Eisteddfod fawreddog yn y Fenni rhwng 1834 – 1853, pob un yn fwy mawreddog na’r un o’i blaen. Daeth pobl yno o bob cwr o Gymru, Lloegr a’r byd (o Rwsia a’r India hyd yn oed).

Bu farw’r Arglwyddes ym 1896 yn 92 mlwydd oed. Merch nad oedd dafn o waed Cymreig yn ei gwythiennau yn ymdrechu i gadw’r iaith yn fyw. ‘Bulldozer’ o ddynes a fynnai gael ei ffordd. Gwraig a oedd flynyddoedd lawer o flaen ei hamser, oedd yn hyrwyddo’r iaith yn adeg y ‘Welsh Not’. Roedd yn eithriad disglaer i Seisnictod ei dosbarth.